Cofnodion Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Gydraddoldeb Hiliol
Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd: Gwneud ffordd o fyw yn drosedd?
23 Tachwedd 2021 | 9:00 – 10:00 | Ar-lein
Yn bresennol:
Name |
|
Jasmine Jones |
jasmine.jones@gtwales.org.uk |
Leila Usmani |
leila@eyst.org.uk |
Ginger Wiegand |
ginger@equalityhumanrights.com |
Caroline DAWSON |
cdawson@ageconnectsnewales.org.uk |
Twahida Akbar |
twahidaakbar@bavo.org.uk |
Rebecca Rosenthal |
becca.rosenthal@victimsupport.org.uk |
SIBANI ROY |
doctorroy@btinternet.com |
Greg George |
gregsg5@icloud.com |
Ingrid Wilson |
ingrid@ideasuk.co.uk |
Meena Upadhyaya |
Upadhyaya@cardiff.ac.uk |
Sivagnanam Sivapalan |
siva.sivapalan@btinternet.com |
Rahila Hamid |
rahilahamid60@hotmail.co.uk |
Denise Barry |
denise.barry@tgpcymru.org.uk |
Dalia Alhusseini |
Dalia@eyst.org.uk |
Lee Tiratira |
lee@eyst.org.uk |
Jim Breese |
jim.breese@tgpcymru.org.uk |
Assia Kayoueche |
assia@eyst.org.uk |
Himalee Rupesinghe |
himalee@raceequalityfirst.org.uk |
Hannah Lawton |
hannah.lawton@gwent.police.uk |
Carys Morgan-Jones |
Carys.Morgan-Jones@Senedd.Wales |
Dr. Shadan Roghani |
shadanr@nptcvs.org.uk |
Lucy O'Brien |
lobrien@watkinsandgunn.co.uk |
Rachel Wood-Brignall |
Rachel.Wood-Brignall@denbighshire.gov.uk |
andrew lucas |
alucas@cardiff.gov.uk |
Adeyanju Makanju |
yanju4real09@yahoo.co.uk |
Rhiannon Craft |
craftrk@cardiff.ac.uk |
Lucy Luca |
lucy@eyst.org.uk |
Kate Rose |
kate.rose@gov.wales |
Joline Connors |
jolineconnors19@outlook.com |
ray.singh40@gmail.com |
ray.singh40@gmail.com |
KAY DENYER |
kay@racecouncilcymru.org.uk |
Alix Miller |
alixmiller1@hotmail.com |
Sam Worrall |
sam.worrall@gtwales.org.uk |
Ella Hill |
ellajustbecause@yahoo.com |
Jack Harries |
Jack.Harries@senedd.wales |
shaheen s |
shaheen.sutton@tnlcommunityfund.org.uk |
Dave Jolly |
Dave.Jolly@flintshire.gov.uk |
Reihana Bashir - Irish Community Care |
Reihana.Bashir@irishcc.net |
Rob Miller |
Robertmiller137@ymail.com |
Gwenllian Lansdown Davies |
gwenllian@meithrin.cymru |
Jasmine Jones |
jasmine.jones@gtwales.com |
Sherrie Smith |
sherrie.gatessex@gmail.com |
Moawia Bin-Sufyan |
Moawia.binsufyan@gmail.com |
Shahinoor Alom |
alom.shahinoor@gmail.com |
Kay Howells |
klhowells@carmarthenshire.gov.uk |
Selima Bahadur |
selima@eyst.org.uk |
helena nadova |
helena.nadova@tgpcymru.org.uk |
Jennifer Halbert |
jennifer.halbert@tgpcymru.org.uk |
Bryn Hall |
bryn.hall@clinks.org |
Frances Taylor |
frances.taylor@policeconduct.gov.uk |
Rachel Allen |
rachel.allen1@justice.gov.uk |
Andrew Bettridge |
andrew.bettridge@senedd.wales |
John Griffiths |
john.griffiths@senedd.wales |
Tripti Megeri |
triptimegeri@gmail.com |
Angelica Winter |
Angelica.winter@museumwales.ac.uk |
Melanie Warburton |
melanie.s.warburton@rctcbc.gov.uk |
Elin Hywel |
elin.hywel@senedd.cymru |
Thomas Hendry |
tomtom.hendry@tgpcymru.org.uk |
Donna Morgan |
leeannemorgan6@gmail.com |
Eleri Williams |
eleri.williams@futuregenerations.wales |
Allison Hulmes |
allison.hulmes@basw.co.uk |
Sarah Miller |
Sarah.miller@etonrdch.org |
Rocio Cifuentes |
rocio@eyst.org.uk |
jenny Rathbone |
Jenny.Rathbone@senedd.wales |
Sujatha Thaladi |
Sujatha.thaladi@MentorRing.org.uk |
Lewis Owen |
lewis.owen@senedd.cymru |
Neeta Baicher |
Neetabaicher@outlook.com |
Jessica Morgan |
Jessica.morgan@rctcbc.gov.uk |
Humie Webbe |
humie.webbe@gmail.com |
Trudy Aspinwall |
trudy.aspinwall@tgpcymru.org.uk |
Sioned Williams |
sioned.a.williams@senedd.cymru |
Eleri Griffiths |
eleri.griffiths@senedd.cymru |
Pat Dunmore |
pat.dunmore@citizensadvicesnpt.org.uk |
Abyd Quinn Aziz |
quinnaziza@cardiff.ac.uk |
Wiard Sterk |
wiardsterk@me.com |
Kathryn Lock |
kathrynlockgiddy@gmail.com |
Adam EYST |
adam@eyst.org.uk |
· Agor y cyfarfod a gair o groeso gan John Griffiths AS |
· Estynnodd John groeso i bawb a rhoddodd fraslun o’r agenda. |
·
Pam rydym ni yma - Rhan 4 o Fil yr
Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd |
Ø Bydd y Bil hwn yn gwenwyno dyfroedd cytgord cymunedol. Ø Bydd y Bil yn gwneud y rhai sy'n meddiannu tir dros dro’n droseddwyr. Ø Mae’r Bil yn diystyru deddf cynllunio 2014 yn llwyr. Mae hon yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol ddarparu o leiaf un safle i deithwyr o fewn ei ffiniau. Ø Mae tri awdurdod lleol nad oes ganddynt safle i deithwyr - ac mae’n anochel y bydd pobl yn cael eu gwneud yn droseddwyr pan fyddant yn stopio, ac mae angen iddynt stopio oherwydd ei fod yn beryglus fel arall. Ø Mae’n bwysig inni drafod hyn cyn inni gael
pleidleisio ar y Bil. |
· Safbwyntiau a phryderon y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr (SRT) Allison Hulmes, cyd-sylfaenydd Cymdeithas Gwaith Cymdeithasol SRT Tom Tom Hendry Lleisiau o’r gymuned |
Ø Allison Hulmes, sy’n Sipsi Gymreig, yw cyd-sylfaenydd Cymdeithas Gwaith Cymdeithasol SRT. Sefydlwyd y gymdeithas oherwydd bod angen i waith cymdeithasol newid, ac maent yn credu’n gryf mai dim ond drwy’r gymuned y bydd modd sicrhau’r newid hwn. Ø Mae Allison yn teimlo y bydd y Bil hwn yn normaleiddio casineb tuag at sipsiwn yn y DU a Chymru. Ø Mae Llywodraeth Cymru wedi methu oherwydd ni ddylem fod yn y sefyllfa hon byth. Gallai Cymru fod wedi gosod safon a hawlio’r tir uchel moesol ond ni lwyddwyd erioed i greu lleoedd i stopio ac i asesu anghenion. Pam? Oherwydd hiliaeth sefydliadol a’r ffaith bod casineb tuag at sipsiwn wedi’i normaleiddio. Ø Nid yw teuluoedd am gymryd rhan mewn prosesau asesu gan nad oes dim yn newid, ac nid ydynt yn ymddiried yn y system. Ø Mae teuluoedd yn wynebu carchar neu ddirwy a gall eu cartrefi ael eu cymryd oddi arnynt gan nad oes ganddynt unman arall i stopio. Ø Bydd ymgais Llywodraeth Cymru i gau’r bylchau mewn canlyniadau iechyd ac addysg yn methu os na chaiff problemau tai eu datrys mewn ffordd ddiwylliannol briodol. Ø Nid oes dim ymdrech gwirioneddol i ddeall pobl SRT. Ø Ni fydd y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yn llwyddo i greu Cymru wrth-hiliol oni bai bod Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â gwir angen y gymuned ar fyrder. Ø Roedd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol a gyflwynwyd yn gynnar eleni wedi’i ysgrifennu mor wael a chollwyd cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Ø Ni fydd sefyllfa cymunedau SRT yn newid os na chânt eu cynrychioli yn y Senedd ac mewn awdurdodau lleol. Ø Dim mwy o siarad gwag.
Ø Mae gan Tom Tom ddeuddeg mlynedd o brofiad ym maes cydraddoldeb ac mae wedi synnu bod y Bil hwn wedi’i gynnig hyd yn oed. Ø Bydd yn Ddiwrnod Cofio'r Holocost cyn bo hir, a gorffennodd Tom Tom gyda'i hoff ddywediad: “Mae difodiant a chymhathiad yn ddwy ochr i’r un dynged”. Ø Mae llawr o wirionedd yn y dyfyniad hwn, boed hynny ar ffurf dogfennau. Mae'r ddogfen hon yn ffiaidd a dylid ei thaflu o’r neilltu.
Ø Esboniodd Lian y dylem wybod am gydraddoldeb - pe baem yn ei ddeall, ni fyddai’r Bil hwn wedi’i gyflwyno. Gan mlynedd yn ôl, gallai person gael ei ladd am fod yn ffrindiau â Sipsi. A ydym yn mynd yn ôl i’r dyddiau hynny? Ø Mae cymunedau SRT wedi bod yn rhan o dreftadaeth y DU ers pum canrif a rhagor. Yn awr, yn 2021, mae ethnigrwydd SRT yn cael ei ddileu. Ø Mae angen trwydded yrru uwch (trwydded llusgo) ar gyfer carafanau hir ac nid oes gan ddynion ifanc y trwyddedau hyn, felly mae angen pobl hŷn sydd â’r drwydded briodol i lusgo carafanau. Mae'r Bil yn nodi y bydd pobl yn cael eu cosbi os na allant symud neu os na fyddant yn symud. Ø Nid yw Lian yn gweld unrhyw gymuned ethnig arall yn ymladd dros ei threftadaeth i’r fath raddau â chymunedau SRT.
Ø Mae Martin wedi ymlâdd gan ei fod yn gwneud hyn ers 13 mlynedd ac mae'n teimlo bod y sefyllfa wedi gwaethygu. Ø Pryderon: Bydd y casineb tuag at sipsiwn yn gwaethygu. Cafodd fideo yn dangos dyn yn rhoi carafan ar dân ganol nos gryn sylw ddwy flynedd yn ôl. Roedd teulu yn y garafan honno. Ø Mae Martin yn pryderu y bydd pobl yn teimlo y gallant ymosod ar bobl SRT a chael gwared arnynt. Ø Roedd ymgyrch yn erbyn safle tramwy SRT yn Wrecsam bythefnos yn ôl a oedd wedi ei gynllunio. Perchennog maes carafanau oedd arweinydd yr ymgyrch ac roedd ganddo lain o dir i lawr y ffordd i’w osod fel safle gwyliau. Enillodd y perchennog busnes hwn yr ymgyrch. Ø Mae cyfraddau hunanladdiad pobl SRT 7% yn uwch nag ydyw yn y boblogaeth gyffredinol eisoes, ac mae hyn yn sicr o waethygu.
|
·
Y farn gyfreithiol - Sut i leihau
effaith Rhan 4 o'r Bil |
Ø Gofynnodd Lucy beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i liniaru’r canlyniadau y mae’r gymuned wedi’u hamlinellu? Ø Un o’r problemau yw nad yw awdurdodau lleol yn cydymffurfio â’u dyletswyddau i sefydlu safleoedd awdurdodedig. Ø Nid yw plismona wedi’i ddatganoli, ond mae tai yn faes sydd wedi’i ddatganoli. Mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn ymwybodol y bydd heriau cyfreithiol yn eu herbyn am beidio â chydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru ac yn erbyn awdurdodau lleol am beidio â chydymffurfio â’r ddyletswydd tai.
Ø Soniodd Trudy eto am ddyletswydd yr awdurdod lleol i asesu anghenion safleoedd SRT yn ddigonol. Ø Roedd yr adroddiad gan bwyllgor y Senedd wedi dweud na all Llywodraeth Cymru wrthod rhoi cydsyniad i’r Bil gan ei fod yn ymwneud â’r drefn gyhoeddus. Ø Mae Dr Huw Evans yn gyfreithiwr academaidd o Met Caerdydd ac mae wedi egluro bod y Pwyllgor Deddfwriaeth a Chyfansoddiad, sydd wedi edrych ar Ran 4 o’r Bil, wedi datgan ei fod yn dod o dan gynnal y drefn gyhoeddus, felly nid oes angen cydsyniad Llywodraeth Cymru, ac ni fydd yn cael ei gynnwys o dan y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. Fodd bynnag, nid oedd Dr Huw Evans yn meddwl ei fod mor syml â hynny, a hynny oherwydd bod y Bil yn cyffwrdd â defnydd tir a rheoliadau. Nid yw defnydd tir yn fater a gedwir yn ôl. Os gellir dadlau bod Rhan 4 yn ymwneud â defnydd tir yn hytrach na’r drefn gyhoeddus, yna byddai angen cydsyniad y Senedd ar gyfer Rhan 4. Ø Aeth Dr Huw rhagddo i drafod Adran 3 o’r Ddeddf Hawliau Dynol sy'n nodi bod yn rhaid darllen deddfwriaeth a’r rhoi ar waith mewn ffordd sy'n gydnaws â hawliau dynol. Ø Cyfeiriodd Dr Huw at erthygl 8 sy’n nodi bod yn rhaid ystyried yr hawl i fywyd teuluol preifat, oherwydd teuluoedd sy’n gwersylla ar y tir. Ø Mae cymesuredd yn ddadl sydd ynghlwm wrth hawliau dynol, a gellir dadlau nad yw Rhan 4 o’r Bil yn gymesur. Gallai Rhan 4 arwain at rannu teuluoedd ac atafaelu cartrefi; plant sy'n derbyn gofal ac effaith sylweddol ar iechyd meddwl a lles. Ø Nid oes dim safleoedd tramwy yng Nghymru, a hynny saith mlynedd ar ôl yr asesiad diwethaf. Ø Mae angen i’r Senedd ystyried agweddau eang ar hawliau dynol ynghyd â’r ddyletswydd tai. Ø Roedd Trudy yn teimlo’n gryf bod angen i’r Aelodau o’r Senedd fod yn cwestiynu a herio Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’i gallu i ysgogi’n briodol. Roedd angen neges glir iawn y bydd camau gorfodi’n cael eu cymryd yn erbyn awdurdodau lleol sydd wedi methu’n llwyr i gydymffurfio â’u dyletswyddau. Ø Rroedd Trudy wrthi’n paratoi papur briffio i'r Senedd cyn y ddadl ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. |
· Sesiwn holi ac ateb |
Ø Gofynnodd John Griffiths a hoffai’r Aelodau o’r Seneddol a oedd yn y cyfarfod siarad? Diolchodd Sioned Williams AS, Plaid Cymru, i bawb am eu tystiolaeth rymus. Roedd Plaid Cymru. meddai, yn gwrthod unrhyw bolisïau a fyddai’n gwneud ffordd draddodiadol o fyw yn drosedd. Bydd Plaid yn gwrthwynebu’r ddeddfwriaeth hon. Mae Plaid yn dadlau bod yn rhaid datganoli plismona er mwyn amddiffyn pobl rhag anrhaith awdurdodyddiaeth San Steffan.
Ø Dywedodd Alex (Teithiwr) nad oes angen safle ar rai pobl, a gofynnodd a fyddai pleidiau’n gefnogol i bobl sy'n byw'n ddiniwed ar ochr y ffordd? Esboniodd Alex nad yw'n SRT, ac nad yw hi’n perthyn i’r categori hwn ond mae angen iddi hithau hefyd gael ei hamddiffyn.
Ø Gofynnodd John Griffiths i Alex ai dyma sut roedd hi’n byw fel arfer ynteu ai oherwydd costau tai roedd hi’n gwneud hynny? Esboniodd Alex nad costau tai yw’r rheswm, ac roedd yn bod yn byw fel hyn ers deugain mlynedd.
Ø Cafodd Alex ei sicrhau gan Trudy fod ei hawliau hi wedi’u diogelu gan ei bod yn cael ei hystyried yn Deithiwr.
Ø Gofynnodd Neeta pam nad oes cydraddoldeb mewn materion cydraddoldeb. Roedd am weld rhywbeth yn cael ei wneud a hynny ar fyrder.
Ø Diolchodd Jenny MS i bawb am siarad mor glir am y bygythiad i fywydau pobl SRT. Mae Jenny yn obeithiol y bydd y Senedd yn penderfynu peidio â rhoi cydsyniad. |
Cloi’r cyfarfod a throsglwyddo’r gwaith ysgrifenyddol i Race Council Cymru John Griffiths AS |
Ø Diolchodd John Griffiths i bawb am yr hyn a fu’n Gyfarfod Grŵp Trawsbleidiol pwerus. Ø Roedd John yn awyddus i gael deialog gref gan fod angen adeiladu a chynnal ymgyrchoedd. Ø Gofynnodd John i Jenny Rathbone a oedd ganddi unrhyw beth i’w ychwanegu: Ø Esboniodd Jenny fod angen i gymunedau yn gyffredinol sefyll dros hawliau SRT. Ni allwn droi un grŵp yn erbyn y llall, ac mae angen inni frwydro yn erbyn yr hiliaeth sy'n bodoli. Mae pobl yn dweud pethau am gymunedau SRT na fyddent yn eu dweud am gymunedau ethnig eraill, ac mae angen inni frwydro yn erbyn hynny.
Ø Bydd ysgrifenyddiaeth y grŵp trawsbleidiol hwn nawr yn cael ei throsglwyddo'n ôl i Race Council Cymru gyda chytundeb y rhai a oedd yn bresennol. |